Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 23 Tachwedd 2017
Amser:
09.32 -
12.03
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4416
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AC (Cadeirydd) Dawn Bowden AC Jayne Bryant AC Rhun ap Iorwerth AC Caroline Jones AC Julie Morgan AC Lynne Neagle AC |
Tystion: |
Dr Kelechi Nnoaham, Bwrdd lechyd Prifysgol Cwm Taf Fiona Kinghorn, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro Conrad Eydmann, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro Dr Julie Bishop, Iechyd Cyhoeddus Cymru Dr David Bailey, BMA Cymru Wales Dr Ruth Alcolado, Coleg Brenhinol y Meddygon Dr Ranjini Rao, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion David Riley, Penaethiaid Safonau Masnach Cymru David Jones, Safonau Masnach Cymru Simon Wilkinson, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Sarah Sargent (Clerc) Claire Morris (Dirprwy Glerc) Gareth Pembridge (Cynghorydd Cyfreithiol) Philippa Watkins (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriad gan Angela Burns AC.
2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd y byrddau iechyd.
2.2 Cytunodd Julie Bishop i roi gwybodaeth am adeg pan fyddai gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd y cyhoedd yn gyfforddus â’r cydbwysedd rhwng fforddiadwyedd a faint y mae pobl yn ei yfed.
3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr BMA Cymru, Coleg Brenhinol y Meddygon a Choleg Brenhinol y Seiciatryddion.
4.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Cyfarwyddwyr Diogelu'r Cyhoedd Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
4.2 Cytunodd Simon Wilkinson i archwilio ffyrdd gwahanol/ychwanegol o gryfhau’r agenda rheoli alcohol yng Nghymru ac i baratoi nodyn i’r Pwyllgor, os oedd hynny’n briodol.
5.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â gwaith craffu cyfnod 1.
5.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ynglŷn â gwaith craffu cyfnod 1.
6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod eitemau 2, 3 ac 4 o'r cyfarfod.